Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019
Amser:
08.30 -
08.50
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Trefnydd y bydd yn ateb cwestiynau yn lle'r Prif Weinidog.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd y bydd sesiwn fer o Bwyllgor y Cynulliad Cyfan yn syth ar ôl y cyfnod pleidleisio ddydd Mawrth. Mae hyn er mwyn ystyried cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau cyn ystyried Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Gofynnodd iddynt annog Aelodau i aros yn y Siambr trwy gydol y cyfarfod hwnnw - os oes llai nag 20 Aelod yn bresennol yna fydd cworwm yn y cyfarfod.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 15 Hydref 2019
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi
Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector
Rhentu Preifat (45 munud) - Gohiriwyd tan 5
Tachwedd
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Neil McEvoy wedi gofyn i NNDM7127 gael ei ystyried eto gan y Pwyllgor Busnes.
Cadarnhaodd pob Rheolwr Busnes nad oedd eu safbwyntiau wedi newid ers yr wythnos diwethaf, a chytunwyd na fyddent yn ystyried yr un cynnig eto, oni bai bod newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes roi gwybod iddi pe bai eu barn neu eu hamgylchiadau yn newid mewn ffordd a allai arwain y Pwyllgor i wneud penderfyniad gwahanol.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Hydref 2019 -
·
Dadl Fer
Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud)
- wedi'i ohirio tan 16 Hydref
Dydd Mercher 16 Hydref 2019 -
· Dadl Fer Jack Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) - wedi'i ohirio o 9 Hydref
Dydd Mercher 23 Hydref 2019 -
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytuno ar feysydd Rheolau Sefydlog i'w hadolygu. Cytunwyd i drafod unrhyw feysydd pellach i'w hadolygu gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf os bydd angen.
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes am eu henwebiadau ar gyfer aelodau Pwyllgor Diwygio'r Cynulliad. Cytunodd Rhun ap Iorwerth a Rebecca Evans i gadarnhau dewisiadau eu grwpiau cyn gynted â phosibl, a dywedodd Caroline Jones wrth y Rheolwyr Busnes y byddai Plaid Brexit yn enwebu David Rowlands.